MEMBERS LOG IN

This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com

Dont have an account? Sign up
CYNLLUN ARLOESOL ‘CWPAN AIL-LENWI A DYCHWELYD’ CAERDYDD YN MYND YN FYW YR WYTHNOS HON – DYMA SUT Y GALLWCH CHI EI DDEFNYDDIO I GAEL COFFI AM DDIM DDYDD GWENER YMA
<< Back Posted on 1st October 2024
News

By Abbie Dix

CYNLLUN ARLOESOL ‘CWPAN AIL-LENWI A DYCHWELYD’ CAERDYDD YN MYND YN FYW YR WYTHNOS HON – DYMA SUT Y GALLWCH CHI EI DDEFNYDDIO I GAEL COFFI AM DDIM DDYDD GWENER YMA

Bydd cynllun arloesol ‘Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd’ Caerdydd yn mynd yn fyw ddydd Gwener 4 Hydref 2024, ac i ddathlu’r lansiad, bydd busnesau sy’n cymryd rhan ar draws y ddinas yn cynnig diod boeth o’u dewis i’r 50 cwsmer cyntaf i ddefnyddio’r cynllun.*

Mae menter ‘Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd’, y cyntaf yng Nghymru, yn galluogi cwsmeriaid i ‘fenthyca’ cwpan y gellir ei ailddefnyddio o unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan a’i ddychwelyd yn ddiweddarach i’w olchi a’i ailddefnyddio.

Bydd y dull arloesol hwn yn lleihau gwastraff cwpanau untro ac yn gwneud Caerdydd yn ddinas wyrddach a mwy cynaliadwy, a’i nod yw mynd i’r afael â’r 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro sy’n cael eu defnyddio bob blwyddyn yn y DU.

Busnesau sy’n cymryd rhan (pob un yn cynnig un coffi am ddim i’r 50 o ddefnyddwyr cyntaf y cynllun);

  • Pettigrew Bakery (Arcêd y Castell, y Rhath, a Pharc Victoria)
  • Pettigrew Tea Rooms (Parc Bute)
  • Tramshed Tech (Tramshed)
  • Da Coffi (Un Sgwâr Canolog)
  • Waterloo Tea (Arcêd Wyndham)
  • Bird & Blend Tea Co. (Arcêd Brenhinol)
  • Kin & Ilk (Tŷ Brunel House, Cwr y Ddinas, Capital Tower, Pontcanna, a Dewi Sant)
  • Caffi Green Shoots (Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd)
  • Uncommon Ground (Arcêd Brenhinol)
  • Sherman Cymru
  • Coffi Clwb (Marchnad Jacobs)
  • Bae Coffi (yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro)
  • Coffee Spot (Heol Barrack)
  • Snails Deli (Rhiwbeina)
  • The Training Ground Cafe Project (Grangetown)
  • Coffee Mania (yn Techniquest)

Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn, a wireddwyd gan FOR Cardiff ar y cyd â City To Sea gyda chymorth £90,000 o gyllid gan Gronfa Rhannu Ffyniant Llywodraeth y DU, yn cael ei gynnal fel cynllun peilot tan fis Mawrth 2025, gan arbed 30,000 o gwpanau untro posibl rhag ymuno â’r ffrwd wastraff yng Nghaerdydd. Bydd effaith y cynllun yn cael ei werthuso gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Busnes Greenwich, gyda’r gobaith y bydd yn lasbrint ar gyfer prosiectau tebyg ledled y DU.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff,

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld cynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd yn cael ei lansio yr wythnos hon. Bydd y fenter hon yn helpu Caerdydd i leihau gwastraff, helpu busnesau Caerdydd i fod yn fwy cylchol, a hefyd yn annog dewisiadau mwy cynaliadwy yn ein bywydau bob dydd.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol City to Sea, Jane Martin:

“Yfwyr te a choffi yng Nghaerdydd – mwynhewch eich hoff baned, cefnogwch gaffis annibynnol lleol ac atal llygredd plastig! Mae dewis y Cwpan Ail-lenwi a dychwelyd yn gam hawdd i fynd i’r afael â gwastraff untro yn y ddinas, a gyda’r ap Refill gallwch ddod o hyd i lefydd i ail-lenwi eich potel ddŵr a siopa heb y deunydd pacio dibwrpas.’

Mae’r broses yn syml: mae cwsmeriaid yn lawrlwytho’r ap Refill, sganio cod QR i fenthyg cwpan y gellir ei ailddefnyddio a’i ddychwelyd i unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan o fewn pythefnos – yn ddi-dâl. Mae’r ap yn darparu nodiadau atgoffa ac yn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd i’r man codi neu ollwng agosaf, a dim ond os nad yw’r cwpan yn cael ei ddychwelyd o fewn pythefnos y codir ffi ar gwsmeriaid.”

Gwenno Jones, o Da Coffee:

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun hwn. Wedi’i leoli’n berffaith yn agos i’r orsaf ganolog, gobeithiwn y bydd pobl fydd yn teithio i mewn i Gaerdydd am y diwrnod yn manteisio ar y cyfle i gymryd Cwpan Ail-lenwi gennym – gallant dreulio’r diwrnod cyfan yn y ddinas a mwynhau coffi wrth fynd, a sicrhau na fyddant yn creu unrhyw wastraff untro diangen.”

Sut mae Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd yn gweithio:

  • Bydd caffis a siopau coffi ar draws y ddinas yn ymuno â’r cynllun a byddant yn cael stoc o’r cwpanau amldro.
  • Bydd y cwsmer yn lawrlwytho’r ap Refill ac yn cofrestru manylion eu cerdyn i baratoi ar gyfer defnyddio un o Gwpanau Ail-lenwi a dychwelyd Caerdydd (ni fyddir yn codi tâl).
  • Pan fydd cwsmer yn dod i mewn am baned, bydd y barista yn defnyddio’r ap Refill, sydd wedi ennill gwobrau, i sganio cod QR ar un o Gwpanau Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd, ac mae perchnogaeth dros dro y cwpan yn mynd i’r cwsmer.
  • Bydd y cwsmer yn cael ei atgoffa pryd a ble i ddychwelyd y cwpan drwy’r ap Refill; ar yr amod bod y cwpan yn cael ei ddychwelyd o fewn pythefnos, NI chodir tâl am ddefnyddio’r cynllun.
  • Ar ôl i’r cwsmer ddychwelyd y cwpan, bydd yr adwerthwr sy’n cymryd rhan yn ei sganio’n ôl i mewn, ei olchi a’i roi yn ôl yn y cylchrediad er mwyn i gwsmer arall ei ailddefnyddio – dro ar ôl tro!

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd, ewch i www.forcardiff.com/cardiff-reusable-cup-scheme-launches-to-help-tackle-2-5-billion-single-use-coffee-cup-problem.

* Diod poeth safonol am ddim. Mae’n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau’n berthnasol. Holwch bob busnes sy’n cymryd rhan am fanylion.

YOU MAY ALSO BE INTERESTED IN