Daeth Yasser yn ddigartref pan dderbyniodd orchymyn troi allan dirybudd i adael ei gartref ar unwaith ym mis Chwefror 2019. Gadawodd gyda dim ond y dillad oedd amdano a chysgodd yn nhai amryw o’i ffrindiau ac ar strydoedd Caerdydd am y chwe mis canlynol, y mae’n eu disgrifio fel cyfnod gwaethaf ei fywyd.
Yn ystod yr ychydig fisoedd hyn, wynebodd gyfres o rwystrau. Heb le diogel, collodd ddogfennau pwysig, a chafodd ei fudd-daliadau eu hatal.
Meddai Yasser: “Fe wnaeth hyn ddifetha fy mywyd, ac roedd hi’n boenus iawn tan imi fynd i’r YMCA. Ond mae pethau’n dechrau gwella nawr gyda help y bobl yn y gwasanaeth.”
Mae Yasser yn cymryd rhan yn rhaglen Aspire yn y ganolfan, sy’n rhaglen hyfforddiant pedair wythnos o hyd i helpu pobl sy’n dioddef digartrefedd i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae hefyd yn un o nifer o bobl ddigartref yng Nghaerdydd sy’n elwa o haelioni busnesau lleol trwy Siarter Digartrefedd Caerdydd.
“Mae’r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi fy helpu gyda fy CV, ceisiadau am swyddi ac i gael pethau braf fel torri fy ngwallt trwy CAERedigrwydd cyn fy nghyfweliad.”
Ac yntau newydd gwblhau’r rhaglen ac yn teimlo’n hyderus wedi cael torri ei wallt yn daclus gan ‘Jones the Barber’, aeth Yasser am gyfweliad gyda’r Post Brenhinol am swydd dros dro am gyfnod y Nadolig ac aeth yn dda, ond nid oedd modd iddo dderbyn y swydd gan nad oes ganddo basbort.
Tan y gall ennill digon o arian i brynu un, fydd hi ddim yn bosibl iddo dderbyn unrhyw un o’r swyddi y caiff eu cynnig. Ond gyda gradd mewn Busnes a TG a’i fwriad i astudio am radd MA mewn Astudiaethau Busnes gyda’r Brifysgol Agored ddechrau’r flwyddyn nesaf, mae Yasser yn llawn ymrwymiad ac yn benderfynol ei fod am fynd yn ôl i weithio fel y gall “ennill ei fywyd yn ôl, cael lle i fyw a jesd gwneud y pethau bob dydd y bydd pobl yn eu gwneud.”
Sefydlwyd CAERedigrwydd a’r siarter mewn ymateb i brif bryder busnesau lleol yng nghanol dinas Caerdydd – sef digartrefedd.
Bellach, mae Siarter Digartrefedd Caerdydd yn caniatáu i fusnesau chwarae eu rhan yn yr ateb gyda llawer eisoes wedi cynnig addunedau yn cynnwys torri gwallt am ddim, gigs, gweithdai a phrofiad gwaith. Bydd yr addunedau hyn yn cynorthwyo pobl sydd mewn perygl neu sydd eisoes yn ddigartref, i ennill sgiliau a phrofiadau newydd fydd yn eu helpu ar eu taith oddi wrth ddigartrefedd.
Gall eich cyfraniadau i CAERedigrwydd helpu i chwalu rhwystrau ar gyfer pobl sy’n dioddef digartrefedd. Gallwch gyfrannu £3 trwy anfon neges testun GIVDIFF5 at 70331.