Heddiw (Dydd Iau 26ain Medi), mae FOR Cardiff wedi lansio Siarter Ddigartref Caerdydd er mwyn uno pobl, busnesau, ysgolion a phrifysgolion i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd gyda’n gilydd.
Wedi ei chreu ar y cyd gyda sefydliadau i’r digartref, bydd yn cynnig ffyrdd eraill i roi trwy amser, cyflogaeth, sgiliau a gwasanaethau i helpu pobl sy’n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gellir addunedu trwy wefan CAERedigrwydd.
Mae busnesau, fel Neal’s Yard, The Greenery a Jones the Barber eisoes wedi camu ymlaen i gynnig gwahanol addunedau fel helpu pobl i ddod yn rhan o gymdeithas, hyfforddiant cogydd i wella eu cyflogadwyedd a thorri eich gwallt am ddim i gynyddu hyder.
“Dwi’n cynnig rhoi hyfforddiant cogydd proffesiynol i rywun sy’n ddigartref, waeth ble maen nhw ar eu taith bersonol. Fe fyddan nhw’n dysgu am bopeth sydd ei angen i weithio mewn cegin broffesiynol a sut i redeg eu busnes arlwyo eu hunain, o gyfrif stoc i farchnata. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw gychwyn eu bywyd o’r newydd.”
I gydfynd a’r siarter, mae FOR Cardiff wedi gosod gorsafoedd cyfrannu parhaol, newydd yng nghanol y ddinas er mwyn parhau i godi arian ar gyfer eu cronfa ddigartrefedd, CAERedigrwydd.
Mae dwy orsaf gyfrannu sefydlog wedi eu gosod – un ar flaen Llyfrgell Ganolog Caerdydd a’r llall yng Nghanolfan Siop Dewi Sant. Defnyddir trydedd dyfais symudol ar ddyddiau digwyddiadau mawr a bydd ar gael i fusnesau lleol i godi arian.
Bydd 100% o’r arian a godir yn mynd i’r gronfa i gynnig cymorth uniongyrchol i bobl sy’n dioddef neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Ers lansio’r cynllun rhoi digyffwrdd y llynedd, mae’r gronfa wedi derbyn £11,404 mewn cyfraniadau oddi wrth ymwelwyr, trigolion, busnesau a sefydliadau hael Caerdydd.
Mae 35 o grantiau
wedi eu dyfarnu dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer elfennau angenrheidiol, fel
dogfennau adnabod, gwersi gyrru, dodrefn neu beiriannau i’r tŷ a hyfforddiant
galwedigaethol, i helpu pobl i gael eu traed tanynt a’u cynorthwyo ar eu taith
oddi wrth ddigartrefedd.
Meddai Andrea Powell o
Sefydliad Cymunedol Cymru: “Mae rheoli’r gronfa yn golygu ein bod ni wedi gallu
dosbarthu grantiau drwy’r gwasanaethau digartrefedd gwych yng Nghaerdydd, i
bobl ddigartrefedd sydd eu hangen fwyaf, ac sydd yn fwyaf tebygol o elwa o
ganlyniad i’w hymgysylltiad a’r gwasanaeth hyn.
Mae’r gronfa eisoes wedi cefnogi 35 o bobl i dderbyn eitemau hanfodol fel dogfennau adnabod i agor cyfrif banc, hyfforddiant galwedigaethol i sicrhau gwaith ac eitemau i’r tŷ fydd yn ei droi’n gartref. Gall y pethau hyn i gyd wella ansawdd bywyd ar gyfer unrhyw un sydd yn ddigartref neu sydd wedi profi digartrefedd a helpu i’w hatal rhag llithro’n ôl.”
Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, FOR Cardiff, ardal gwella busnes y ddinas: “Fe wnaethon ni sefydlu CAERedigrwydd mewn ymateb i bryderon oddi wrth fusnesau am ddigartrefedd yn y ddinas. Roedden nhw eisiau dod o hyd i ffordd ystyrlon i helpu unigolion oedd yn cysgu allan. Roedd yr ymateb cychwynnol i’r gorsafoedd cyfrannu dros dro yn hynod o gadarnhaol ac mae gosod y rhai parhaol yn golygu y gallwn barhau â’r gronfa a dosbarthu mwy o grantiau.
“Gallwn fod yn falch i ddweud bod 100% o’r cyfraniadau’n mynd i’r unigolyn. Cyflwyno’r siarter yw’r cam nesaf wrth gynnig ffyrdd gwahanol i gefnogi pobl sydd mewn perygl.
“Mae’r ariannu a’r addunedau, wedi eu cyfuno â’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes, yn golygu ein bod yn dod at ein gilydd i roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl gymryd cam cadarnhaol oddi wrth eu sefyllfa bresennol.”
Meddai’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i gefnogi pob un sy’n dioddef digartrefedd yn y ddinas ac rydym yn gwybod bod trigolion ac ymwelwyr am helpu hefyd.
“Fel partneriaid CAERedigrwydd, rydym yn falch bod gennym orsaf digyffwrdd yn Hyb prysur y Llyfrgell Ganolog ble gall pobl gyfrannu i helpu unigolion yng Nghaerdydd sy’n profi cyfnod anodd yn eu bywydau.
“Mae Hyb y Llyfrgell yn lleoliad pwysig, nid yn unig i godi cymaint â phosibl, ond hefyd i dynnu sylw at yr hyn sy’n cael ei wneud ar draws y ddinas o ran digartrefedd. Ry’n ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn dal i fod yn hael a rhoi yr hyn allan nhw, pan allan nhw i helpu.”
I gyfrannu trwy neges testun, anfonwch GIVDIFF5 at 70331 i roi £3.