Wayne dderbyniodd y grant CAERedigrwydd cyntaf erioed. Dechreuodd ei brofiad o ddigartrefedd pan oedd yn 15 oed, pan gollodd ei rieni gartref y teulu. Am y 25 mlynedd nesaf, ailadroddodd batrwm o ddigartrefedd, caethiwed a charchar tan iddo gyrraedd pwynt a’i orfododd i fynd i gael triniaeth.
“Ro’n i wedi colli defnydd o fy nghoes chwith a fy mraich dde oherwydd fy nghamddefnydd o sylweddau. Ro’n i mewn lle gwael. Ro’n i’n gwybod na allwn i gario ‘mlaen, felly fe es i at The Wallich am help, ac fe wnaethon nhw fy rhoi mewn cysylltiad â Byddin yr Iachawdwriaeth. Yna fe ges i le mewn llety lloches. Penderfynais mai digon oedd digon, ac fe geisiais help am fy nghaethiwed i sylweddau.”
Mae Wayne wedi bod yn sobor ers 2014, ac yn yr amser hwnnw mae wedi cwblhau cyrsiau di-rif i wella ei gyflogadwyedd, gan gynnwys cymwysterau mewn Saesneg, Mathemateg a chwnsela. Fodd bynnag, er ei fod wedi gwneud llawer o wirfoddoli, mae wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i swydd barhaol. Newidiodd popeth yn ystod ei amser gyda The Big Issue.
“Dywedodd The Big Issue wrtha i am CAERedigrwydd ac y bydden nhw’n rhoi swydd lawn-amser i fi pe bawn i’n pasio fy mhrawf gyda’r cyllid. Cyflwynais i’r cais a chymryd y prawf – gan basio tro cyntaf – a’r diwrnod nesa fe wnaethon nhw roi fan a chontract llawn-amser i fi.”
Mae Wayne nawr yn gweithio fel Datblygwr Gwerthwyr yn The Big Issue yn asesu anghenion pobl ac yn defnyddio ei brofiad o ddigartrefedd hirdymor i helpu eraill.
“Rwy’n gweithio deg awr yng Nghaerdydd yn cefnogi pobl ar y stryd, a gyda gweddill fy amser rwy’n dosbarthu cylchgronau yng Nghasnewydd, Trefynwy a Rhosan ar Wy.”
Gyda’i drwydded yrru, gall Wayne fwynhau lefel newydd o annibyniaeth.
“Rwy’n gallu ymweld â fy nheulu, mynd allan am fwyd gyda ffrindiau a pharhau i hyfforddi’r tîm pêl-droed digartref lleol… Mae fy mywyd newydd, gyda’r swydd a’r fan, diolch i gronfa CAERedigrwydd. Mae wedi newid fy mywyd.”