Y
siarter
Trechu digartrefedd gyda’n gilydd
Mae ein siarter wedi ei chreu ar y cyd rhwng mudiadau i’r digartref er mwyn uno pobl, busnesau, ysgolion a phrifysgolion, unrhyw un sy’n rhannu ein cennad – i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd.
Darllenwch ein siarter ac addunedu eich cefnogaeth i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i oresgyn eu heriau.
Siarter Digartrefedd Caerdydd
Rydym yn credu…
…y dylai pawb sy’n ddigartref fod â hawl i:
- Gefnogaeth i greu ansawdd bywyd da
- Llety saff a diogel
- Gwarchodaeth lawn y gyfraith
- Parch a gwasanaethau o safon dda
- Cydraddoldeb mynediad i wybodaeth a gwasanaethau
- Cydraddoldeb cyfleoedd i waith, hyfforddiant, gwirfoddoli, hamdden a gweithgareddau creadigol
…bod gan y bobl hynny sy’n gweithio gyda phobl ddigartref gyfrifoldeb torfol i sicrhau bod:
- Pob darpariaeth yn canolbwyntio ar sicrhau newid a chyflawni anghenion uniongyrchol, gyda ffocws ar helpu pobl i chwalu cylch digartrefedd
- Cyfathrebu da, cydlynu ac agwedd strategol gyson yn cael ei throsglwyddo ar draws pob gwasanaeth
- Pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd lais a rhan wrth benderfynu ar y datrysiadau i’w problemau eu hunain, i ddigartrefedd, ac i broblemau a wynebir gan gymdeithas yn fwy cyffredinol
…y dylai cymuned ehangach Caerdydd:
- Drin pobl sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gydag urddas a pharch
- Empatheiddio gyda phobl sydd â bywydau cymhleth sy’n wynebu anawsterau gwirioneddol wrth geisio dianc rhag digartrefedd a’i effeithiau
- Cefnogi a hyrwyddo gwasanaethau sy’n helpu pobl i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd
- Osgoi gweithredoedd allai wreiddio digartrefedd