Helpwch ni i leihau digartrefedd yng Nghaerdydd.
Beth yw #CAERedigrwydd?
Mae CAERedigrwydd yn ddull partneriaeth o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd rhwng FOR Cardiff a sefydliadau ac elusennau digartrefedd sy’n bodoli eisoes.
Gall pobl gyfrannu'n uniongyrchol at y Gronfa CAERedigrwydd a reolir gan Sefydliad Cymunedol Cymru drwy glicio yma neu decstio DIFF3 i 70331 i roi £3.
Mae elusennau a sefydliadau yn gwneud cais am grantiau o hyd at £2,000 ar gyfer eitemau hanfodol fel ID i agor cyfrif banc neu hyfforddiant galwedigaethol i gael cyflogaeth.
Mae 100% o'r holl roddion yn cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn uniongyrchol.
Drwy gyfrannu at CAERedigrwydd, rydych chi’n helpu elusennau a sefydliadau lleol yng Nghaerdydd i gefnogi pobl ar eu taith i ffwrdd o ddigartrefedd.
Sut rydych chi'n rhannu CAERedigrwydd
Stori Yasser
Daeth Yasser yn ddigartref pan dderbyniodd orchymyn troi allan dirybudd i adael ei gartref ar unwaith ym mis Chwefror 2019. Gadawodd gyda dim ond y dillad oedd amdano a chysgodd yn nhai amryw o’i ffrindiau ac ar strydoedd Caerdydd am y chwe mis canlynol, y mae’n eu disgrifio fel cyfnod gwaethaf ei fywyd. Yn ystod yr ychydig fisoedd hyn, wynebodd gyfres o rwystrau. Heb le diogel, collodd ddogfennau pwysig, a chafodd ei fudd-daliadau eu hatal. Meddai Yasser: “Fe wnaeth hyn ddifetha fy mywyd, ac roedd hi’n boenus iawn tan imi fynd i’r YMCA. Ond mae pethau’n dechrau gwella nawr gyda help y bobl yn y gwasanaeth.” Mae Yasser yn cymryd rhan yn rhaglen Aspire yn y ganolfan, sy’n rhaglen hyfforddiant pedair wythnos o hyd i helpu pobl sy’n dioddef digartrefedd i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae hefyd yn un o nifer o bobl ddigartref yng Nghaerdydd sy’n elwa o…
Stori Tom
Daeth Tom* yn ddigartref yn 2014 wedi i’w berthynas gyda’i bartner chwalu. Ym mis Medi 2018, rhoddwyd ein grant mwyaf o £750 iddo i brynu’r offer angenrheidiol i’w helpu i gychwyn busnes unwaith eto. Cyn bod yn ddigartref, roedd Tom yn rhedeg cwmni adeiladu hirsefydlog yr oedd wedi ei greu a’i ehangu ei hun. Cafodd newidiadau yn ei amgylchiadau personol a chwalfa ei berthynas effaith niweidiol ar ei iechyd a’i les yn gyffredinol. Gyda’i hunan-barch ar ei lefel isaf erioed, aeth ei fusnes i’r wal ac roedd yntau’n ddibynnol ar fudd-dal salwch a gwasanaethau digartrefedd rheng flaen i’w gynnal. Symudodd i mewn i hostel ac yna ymlaen i Dai â Chymorth Huggard, ble y clywodd am gronfa CAERedigrwydd. Mae’r grant wedi helpu Tom i brynu offer i’w helpu i gychwyn ei fusnes yn y gymuned leol. Bydd hyn yn ei helpu i gamu oddi wrth ddibynnu ar fudd-daliadau a thyfu’n…
Hunan-gyflogaeth
Mae gan bobl sy’n dioddef o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o leiaf un gollfarn droseddol yn aml, sy’n ei gwneud yn anodd iawn iddynt ddod o hyd i swydd. Mae llawer o ffurflenni cais yn holi ynghylch gweithgarwch troseddol blaenorol, ac mae’n rhaid i ni ddatgelu hyn dan y gyfraith oherwydd bydd llawer o gwmnïau’n cwblhau gwiriadau GDG. Mae hunan-gyflogaeth yn opsiwn gwahanol, ac mae CAERedigrwydd wedi helpu dau ymgeisydd am grant allan o ddiweithdra. Gyda’r grant £750 llawn, maent wedi gallu prynu’r offer hanfodol i ddechrau eu busnes. Gall cofnod troseddol atal cynnydd person sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd, gan ei adael heb lawer o opsiynau i ennill arian. Mae hyn yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd yn troi’n ôl at droseddu i oroesi. Ni ddylai hanes o droseddu atal rhywun rhag symud ‘mlaen. Gall y grant yma helpu pobl sy’n dioddef…
Prawf Adnabod
Gall rhywbeth mor syml â bod yn berchen ar ryw fath o Brawf Adnabod fod yn gam allweddol o ran dianc rhag digartrefedd yn barhaol. Gall trwyddedau gyrru, pasbortau a thystysgrifau geni gael eu colli neu eu dwyn yn hawdd pan fo rhywun yn cysgu ar y stryd, ac mae’n anodd iawn cael rhai newydd heb gyfeiriad parhaol. Mae CAERedigrwydd yn cefnogi mynediad i Brawf Adnabod i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghaerdydd ac eisoes wedi rhoi pedwar prawf adnabod i bobl a oedd yn cael trafferthion heb un. Mae Prawf Adnabod yn rhoi mynediad i bobl i wasanaethau hanfodol y llywodraeth, y mae gan bob un ohonom hawl iddynt. Mae angen un i gael swydd, agor cyfrif banc, derbyn budd-daliadau a sicrhau tai fforddiadwy. Heb y gwasanaethau hanfodol hyn, mae bron yn amhosib dianc rhag digartrefedd. Y prif rwystr i gael Prawf Adnabod i berson sy’n profi digartrefedd yw…
Dilyn y newyddion diweddaraf
FOR Cardiff yn lansio siarter ddigartref
Heddiw (Dydd Iau 26ain Medi), mae FOR Cardiff wedi lansio Siarter Ddigartref Caerdydd er mwyn uno pobl, busnesau, ysgolion a phrifysgolion i drechu digartrefedd yng Nghaerdydd gyda’n gilydd. Wedi ei chreu ar y cyd gyda sefydliadau i’r digartref, bydd yn cynnig ffyrdd eraill i roi trwy amser, cyflogaeth, sgiliau a gwasanaethau i helpu pobl sy’n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gellir addunedu trwy wefan CAERedigrwydd. Mae busnesau, fel Neal’s Yard, The Greenery a Jones the Barber eisoes wedi camu ymlaen i gynnig gwahanol addunedau fel helpu pobl i ddod yn rhan o gymdeithas, hyfforddiant cogydd i wella eu cyflogadwyedd a thorri eich gwallt am ddim i gynyddu hyder. Dywedodd Delyth Griffiths, perchennog The Greenery ym Marchnad Caerdydd, brofodd fod yn ddigartref ei hun yn 15 oed, “Rydw i wedi bod trwy gyfnod anodd fy hun gyda digartrefedd ac mae’n gallu teimlo fel bod y byd yn…
Cwestiynau Cyffredin
Ydy CAERedigrwydd yn elusen?
Na, mae CAERedigrwydd yn ymgyrch codi arian sy’n cyfuno elusennau a sefydliadau digartrefedd sydd eisoes wedi’u sefydlu ledled Caerdydd.
Mae'n cynyddu faint o arian sydd ar gael i elusennau a sefydliadau fel y gallan nhw gefnogi pobl trwy grantiau bach o hyd at £2,000 sy'n cael eu gwario ar hanfodion a fydd yn cynorthwyo cynllun datblygiad personol person. Y nod yw darparu atebion unigol i faterion unigol.
Mae sefydliadau ac elusennau yn gwneud cais am gyllid drwy Sefydliad Cymunedol Cymru sy'n rheoli dyraniad yr holl grantiau.
Sut gall cyfrannu wneud gwahaniaeth?
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r rhai sy'n profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref. O grantiau cyn lleied â £25 i brynu ID i symiau mwy o hyd at £2,000 i ariannu cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol, mae eich cefnogaeth yn helpu i newid bywydau pobl a lleihau digartrefedd yng Nghaerdydd.
Cliciwch yma i ddarganfod sut mae eich rhoddion wedi newid bywydau. Rydym yn brysur yn casglu mwy o straeon newyddion ar sut mae eich rhoddion wedi helpu, felly bydd mwy yn y man!
A yw pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogir rhai syn profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref?
Mae CAERedigrwydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhoddion a roddir gan y cyhoedd yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae hyn yn cynnwys y gost o sicrhau bod y grantiau'n cael eu dyrannu i'r bobl iawn ar yr amser cywir a'u bod yn cael eu monitro'n briodol. Yn yr achos hwn, mae 10% o'r rhoddion yn mynd i Sefydliad Cymunedol Cymru i dalu costau gweinyddol rheoli'r gronfa.
Mae 10% ychwanegol o’r holl roddion wedi’u neilltuo ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda’r rhai sydd mewn perygl o gael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod er mwyn atal y genhedlaeth nesaf rhag dod yn ddigartref neu orfod troi at weithgareddau stryd fel cardota.
Mae FOR Cardiff, Ardal Gwella Busnes canol dinas Caerdydd, wedi ymrwymo i dalu’r costau marchnata sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd codi arian.
Sut mae rhoddion yn cael eu dyrannu?
Gall elusennau a sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £2,000 i unigolion a chaiff ceisiadau eu hasesu gan dîm dyfarnu grantiau proffesiynol Sefydliad Cymunedol Cymru.
Gallai enghreifftiau o geisiadau a allai fod yn llwyddiannus gynnwys:
- ID ffotograffig ar ffurf trwydded yrru dros dro/lawn neu basbort, i alluogi agor cyfrif banc ac ati.
- Dillad priodol ar gyfer cyfweliadau a/neu gyflogaeth
- Beic i gyrraedd swydd newydd
- Ffioedd hyfforddiant/cwrs
- Costau cludiant i apwyntiadau hanfodol
- Dodrefn/eitemau cartref ar gyfer person sy'n cysgu ar y stryd sydd wedi symud i denantiaeth
- Cwnsela
- Deunyddiau/offer gwaith
Unwaith y cânt eu dyfarnu, caiff grantiau eu trin a'u monitro gan y sefydliadau – ni fydd arian parod byth yn cael ei roi'n uniongyrchol i'r defnyddiwr gwasanaeth – ac mae angen prawf o bryniant.
Sut gall elusennau a sefydliadau wneud cais am gyllid?
Mae ceisiadau am grantiau nawr ar agor ar https://communityfoundationwales.org.uk/cy/hafan/
Gall elusennau neu sefydliadau sy’n gweithio yng Nghaerdydd gyda’r rhai sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref wneud cais am grant o £2,000 i gefnogi anghenion yr unigolion y maent yn gweithio â nhw.
Bydd ceisiadau am grantiau yn cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith o’r cais i’r penderfyniad. Mae’r holl argymhellion i ariannu yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae amseroedd prosesu taliadau i ymgeiswyr llwyddiannus yn amodol ar ddychwelyd y llythyr cynnig a’r ddogfen Telerau ac Amodau wedi’i llofnodi yn amserol, ond fel arfer derbynnir cyllid o fewn wythnos ar y mwyaf, ar ôl derbyn y ddogfen Telerau ac Amodau.
Yn dilyn cynnig llwyddiannus, mater i’r sefydliad yw nodi’r unigolion a fydd yn elwa fwyaf o gyllid. Bydd disgwyl i grwpiau gadw cofnodion cywir o’r grantiau a ddyfarnwyd a bydd gofyn iddynt adrodd yn ôl ar y gwariant.
Sut gall fy musnes gefnogi CAERedigrwydd?
Gall busnesau sydd wedi’u lleoli yng nghanol dinas Caerdydd gefnogi CAERedigrwydd drwy gynnal pwynt cyfrannu. Gallwn greu a dylunio pwynt cyfrannu ar gyfer unrhyw ofod ffenestr, wal neu ofod cownter. Anfonwch e-bost at info@forcardiff.com i ddarganfod mwy ac i drafod.