MEMBERS LOG IN

This area is exclusively for members of FOR Cardiff, this is where you can register/request ‘The Card’ and see the 100+ offers available to our members. If you're not sure if you're a member please check here or email us on info@forcardiff.com

Dont have an account? Sign up
LANSIO CYNLLUN CWPANAU AMLDRO CAERDYDD ER MWYN DELIO Â 2.5 BILIWN O GWPANAU COFFI UNTRO
<< Back Posted on 4th September 2024
News

By Abbie Dix

LANSIO CYNLLUN CWPANAU AMLDRO CAERDYDD ER MWYN DELIO Â 2.5 BILIWN O GWPANAU COFFI UNTRO

4 Medi 2024 – Wythnos Dim Gwastraff | Mis nesaf, bydd cynllun newydd sbon danlli ar gyfer dychwelyd cwpanau coffi yn cael ei lansio ym mhrifddinas Cymru. Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – yn galluogi trigolion Caerdydd i ‘fenthyg’ cwpan tecawê amldro gan gaffi sy’n rhan o’r fenter, gan ei ddychwelyd yn nes ymlaen fel y gellir ei olchi a’i ddefnyddio wedyn dro ar ôl dro.

Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd yn cael ei gyflwyno yng nghaffis y ddinas o 4 Hydref 2024. Gwireddwyd y cynllun gan Caerdydd AM BYTH, gyda chymorth ariannol o £90,000 gan Lywodraeth y DU trwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Er mwyn rhoi’r cynllun ar waith, mae Caerdydd AM BYTH yn gweithio mewn partneriaeth â’r elusen amgylcheddol City to Sea, a bydd yr ap ‘Ail-lenwi’ yn galluogi ymwelwyr a thrigolion Caerdydd i chwilio’n rhwydd am leoliadau ar gyfer casglu a danfon eu cwpanau amldro.

Bydd cyfnod peilot y cynllun ar waith tan ddiwedd mis Mawrth 2025, a’r nod yw lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd a sbwriel ledled y ddinas. Bydd effaith y cynllun yn cael ei mesur a’i gwerthuso gan Ysgol Fusnes Greenwich ym  Mhrifysgol Greenwich a chan Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn y gobaith y bydd y data’n helpu i esgor ar lasbrint ar gyfer cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith ar hyd a lled y DU yn y dyfodol.

Sut y mae cynllun Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd yn gweithio:

  • Bydd caffis a siopau coffi ledled y ddinas yn ymuno â’r cynllun a byddant yn cael stôr o gwpanau amldro.
  • Bydd y cwsmer yn lawrlwytho’r ap ‘Ail-lenwi’ ac yn cofrestru manylion ei gerdyn yn barod ar gyfer defnyddio un o gwpanau’r cynllun (ni fydd arian yn cael ei gymryd oddi ar y cerdyn).
  • Pan fydd y cwsmer yn prynu coffi, bydd y barista yn defnyddio’r ap ‘Ail-lenwi’ gwobrwyol i sganio cod QR ar un o gwpanau’r cynllun, a bydd y cwsmer yn ‘berchen’ ar y cwpan hwnnw dros dro.
  • Bydd yr ap ‘Ail-lenwi’ yn atgoffa’r cwsmer pryd i ddychwelyd y cwpan, ac i ble. Cyn belled ag y dychwelir y cwpan o fewn pythefnos, NI CHODIR TÂL ar y cwsmer am ddefnyddio’r cynllun.
  • Ar ôl i’r cwsmer ddychwelyd y cwpan, bydd y manwerthwr yn ei sganio, yn ei olchi ac yn ei roi yn ôl yn ei briod le fel y gall cwsmer arall ei ailddefnyddio – dro ar ôl tro ar ôl tro!

Medd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH,

“Mae cynllun busnes Caerdydd AM BYTH ar gyfer 2021-26 yn nodi’n glir ein huchelgais i gynorthwyo busnesau a gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i wella cynaliadwyedd canol y ddinas, felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r cynllun peilot cyffrous hwn. Rydym yn hollol hyderus y bydd trigolion Caerdydd yn cefnogi’r cynllun ac y byddant yn ein helpu i atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag cael eu defnyddio.”

Medd David Le Masurier, cydsylfaenydd Pettigrew Bakeries yng Nghaerdydd – sef un o’r busnesau annibynnol cyntaf i ymuno â’r cynllun newydd –

“Dros y blynyddoedd, rydym wedi chwilio’n gyson am ffyrdd o gynnig bwydydd tecawê mewn ffordd fwy cynaliadwy – fel rhoi gostyngiad i bobl am ddefnyddio’u cwpanau eu hunain a chwilio am ddeunyddiau bioddiraddadwy ar gyfer ein cwpanau a’n deunyddiau pacio – ond mae llawer o heriau’n perthyn i’r dulliau hyn. Doedd dim rhaid inni feddwl ddwywaith cyn ymuno â’r cynllun peilot hwn oherwydd, yn amlwg, dyma’r opsiwn mwyaf cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhoi pethau ar waith, oherwydd gwyddom y bydd ein cwsmeriaid yn bachu ar y cyfle i fynd i’r afael â’r mater.”

 Yn ôl George Clarke, Arweinydd Rhaglen City to Sea,

“Gan adeiladu ar lwyddiant y cynllun Dychwelyd Cwpanau ym Mryste a Chaerfaddon, rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Caerdydd AM BYTH i gyflwyno’r cynllun yng Nghaerdydd er mwyn atal miloedd o gwpanau untro diodydd poeth rhag ymuno â’r ffrwd wastraff. Rydym yn llawn cyffro ynglŷn â’r ffaith mai’r prosiect hwn fydd y prosiect peilot cyntaf yng Nghymru ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o’r ffordd fwyaf effeithiol o weithredu’r system ac ennyn diddordeb y cyhoedd a busnesau lleol – mae llygredd a sbwriel untro yn her y mae’n rhaid i bob un ohonom fynd i’r afael â hi.”

 Medd y Cynghorydd Dan De’Ath, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:

“Caiff biliynau o gwpanau coffi untro eu taflu ymaith bob blwyddyn, ond bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau y bydd gennym ddewis amgen ymarferol a chynaliadwy am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Mae helpu i leihau’r gwastraff a gaiff ei greu gan bob un ohonom yn rhan o’n strategaeth Caerdydd Un Blaned, ac rydw i wrth fy modd ein bod, trwy weithio gyda’n partneriaid yn Caerdydd AM BYTH, yn gallu helpu i sicrhau’r cyllid angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’r cynllun yng Nghaerdydd.”

Dywedodd Dr Nadine Leader, darlithydd mewn Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes Caerdydd (Prifysgol Caerdydd),

“Mae’r ymchwil a wneir gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn cyd-fynd â’n Strategaeth Gwerth Cyhoeddus o ran cynhyrchu gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol a busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd yr ymchwil yn gwerthuso’r heriau ac effaith gynaliadwy Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd, gan gyhoeddi’r canlyniadau ar ddiwedd y cyfnod peilot. Bydd hyn yn allweddol os hoffem weld cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”

Pearl Costello yw Cydgysylltydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd Caerdydd – sef partneriaeth fwyd lewyrchus y ddinas, a’r sefydliad sydd wrth wraidd yr ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU erbyn 2024 (rhagor o wybodaeth). Medd Pearl,

“Gwych yw gweld cynllun cwpanau amldro cyntaf Cymru yn cael ei lansio yma ym mhrifddinas Cymru. Mae ‘mudiad bwyd da’ Caerdydd yn tyfu a bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd yn cyfrannu’n fawr at sicrhau y bydd diwylliant caffis llewyrchus y ddinas yn llawer mwy cynaliadwy.”

 Dylai lleoliadau eraill yng Nghaerdydd sy’n dymuno ymuno â’r cynllun gysylltu cyn 13 Medi trwy anfon e-bost at Rhiannon yn Caerdydd AM BYTH – rhiannon@forcardiff.com.

YOU MAY ALSO BE INTERESTED IN